Dewch o hyd i’ch dyfodol a bod yn rhan o ddarpariaeth Gwasanaethau Strôc newydd.
Gwella canlyniadau strôc a chyflawni rhagoriaeth.
Ymgeisiwch nawr
Mae ein Gwasanaethau Strôc yn mynd trwy fuddsoddiad cyffrous.
Rydym yn recriwtio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd i ymuno â’n tîm a bod yn rhan o’n Gwasanaeth Strôc arloesol gyda’r claf yn ganolog.

Gwasanaethau Strôc
Mae ein hagwedd newydd at Wasanaethau Strôc yn cynnwys ffocws cryfach ar adferiad, ac mae’n ychwanegu at lwyddiant cydnabyddedig ein hagwedd gweithio amlddisgyblaethol. Mae ein gwasanaeth wedi cael ei ddylunio ar y cyd â chleifion gan sicrhau ei fod yn ‘glaf ganolog’ yn ei ffurf gywiraf. O edrych ymlaen, bydd cam dau yn gweld datblygiad y gwasanaethau hyper-aciwt ar gyfer y dyfodol (gofal o fewn y 72 awr gyntaf), gan arwain at Wasanaeth Strôc wedi’i ail-ddylunio a’i ail-symbylu ar draws Gogledd Cymru.

Ymunwch â’r Tîm
Rydym yn chwilio am AHP arloesol sy’n ymroddedig i fod yn rhan o’n hagwedd newydd tuag at ddarparu gofal cleifion ardderchog i ymuno â’n Gwasanaeth Strôc wedi’i ail-ddylunio a’i ail-symbylu. Byddwch yn frwdfrydig ynghylch Gwasanaethau Strôc, yn ymroddedig i ddarparu gofal claf o ansawdd uchel, ac yn byw wrth werthoedd y Bwrdd Iechyd.
Mae ein cysylltiadau cryf gyda’r Gymdeithas Strôc a Phrifysgolion yn gynnwys canolfannau ôl-raddedig ac uned academaidd y Maelor, yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygiad parhaus, sy’n golygu pan fyddwch yn ymuno â BIPBC gallwch wir siapio eich gyrfa.
Os ydych yn AHP cyfredol neu Therapydd Ymgynghorol ac eisiau gwybod mwy, hoffem siarad â chi
Dewch i wybod mwy

Ein Bwrdd Iechyd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn unigryw fel y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd a chyflawni gofal ardderchog ar draws Gogledd Cymru.
Rydym yn darparu nifer o wasanaethau gan gynnwys Gwasanaethau Cychwynnol, Cymunedol, Iechyd Meddwl a Llym ar gyfer poblogaeth Gogledd Cymru. Yn ogystal â’n tri phrif ysbyty yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam, rydym hefyd yn gyfrifol am ysbytai cymuned, canolfannau iechyd, clinigau, unedau iechyd meddwl, timau cymunedol, meddygfeydd Meddygon Teulu a gwasanaethau GIG eraill a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr.
Ardal Leol
Mae nifer o’n staff yn amlygu’r ardal leol fel rheswm cadarnhaol o weithio o fewn ein Bwrdd Iechyd. Gan gynnig y cydbwysedd perffaith rhwng gwaith/bywyd, mae Gogledd Cymru yn cynnig ardaloedd prin eu poblogaeth a chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i ddinasoedd cyfagos sy’n golygu bod wastad digon o bethau i’w gwneud. Mae gan Ogledd Cymru lawer i gynnig i breswylwyr newydd. O bentrefi darluniadol, i dai o ansawdd uchel am brisiau fforddiadwy ac amgylcheddau naturiol heb eu difetha tafliad carreg i ffwrdd – beth fwy allwch chi ofyn amdano?
Dewch i wybod sut y gallwch chi elwa o fyw a gweithio ymaRhowch ychydig o wybodaeth i ni a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad.


