Rydym nawr yn recriwtio Fferyllwyr Clinigol a Thechnegwyr Fferylliaeth
Fferylliaeth Glinigol Arbenigol
Sgroliwch at yr hyn sydd o ddiddordeb

Paediatreg / y Newydd-anedig
Fel rhan o dîm Fferylliaeth yn gyfrifol am wardiau paediatrig yn BIPBC, byddwch yn aelod hynod werthfawr o’r tîm amlddisgyblaethol yn rhoi cymorth i’r timau paediatrig cymunedol a CAMHS. Yn ogystal â hyn, byddwch hefyd yn cynghori ar rowndiau ward gan arweiniad meddygon ymgynghorol mewn perthynas â gofal fferyllol, a byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch amser ym maes gofal eilaidd. Mae tîm fferylliaeth baediatrig BIPBC yn cydweithio’n agos, gan gyfarfod yn rheolaidd, a chaiff newidiadau a datblygiadau yn y gwasanaeth eu trafod a’u cytuno ar draws y tri safle.
Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws ein canolfannau trydyddol a fferyllwyr paediatreg amrywiol ledled Cymru, byddwch ynghlwm yn rheolaidd â datblygu canllawiau i hybu defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau ym maes paediatreg, ac mae cyfleoedd enfawr i ddatblygu, fel tystysgrifau sylfaen mewn Datblygiad Personol Parhaus (CPD) mewn fferylliaeth baediatrig a’r newydd-anedig.

Dermatology
P’un a ydych yn newydd i’r arbenigedd neu â’r sgiliau eisoes, mae gennym gyfleoedd ar gael i chi. Mae arbenigo mewn Dermatoleg yn BIPBC yn gyfle gwych i ddatblygu’n Ymarferydd Clinigol ac i reoli llwyth achos o gleifion, gan olygu bod modd i chi gyfrannu at ofal cleifion ar lefel ystyrlon gyda gofal unigol.
Os ydych eisoes yn fedrus mewn Dermatoleg, beth am wneud defnydd da o’ch cymhwyster rhagnodi? Byddwch yn gallu datblygu sgiliau clinigol ymhellach ac ehangu eich cylch gwaith. Fel rhan o’r gwasanaeth, caiff apwyntiadau i gleifion allanol eu cynnal yn rhithiol ac wyneb yn wyneb – gan gynnig hyblygrwydd i’r claf a’r ymarferydd hefyd. Mae hyn yn sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld ar yr adeg gywir, yn y lle cywir gan yr unigolyn cywir, ac mae’n eich galluogi i weithio’n annibynnol ac i reoli eich llwyth gwaith.

Yn ogystal, os byddwch yn mwynhau sganio’r gorwel am opsiynau triniaeth newydd, mae digon ohonynt i chi fynd i’r afael â nhw ym maes Dermatoleg! Pan fyddwch yn ymuno â’r tîm, gallwch fod yn uniongyrchol ynghlwm wrth y broses o gymeradwyo, rhagnodi a monitro therapïau biolegol hynod arbenigol a chyfryngau therapiwtig newydd. At hynny, bydd gennych gyfleoedd i roi cymorth o ran y broses o fabwysiadu meddyginiaeth sydd wedi’i chymeradwyo’n genedlaethol ar lefel ranbarthol, a byddwch yn chwarae rhan wrth ragnodi meddyginiaethau cymeradwy.
Endocrinaidd / Arennol
Fel rhan o dîm Fferylliaeth Endocrinaidd ac Arennol yn BIPBC, byddwch yn gweithio mewn amgylchedd cydweithredol da fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, gan weithio ar draws tri safle aciwt i ddatblygu arweiniad, protocolau a llwybrau. Rydym yn ymgysylltu fel rhan o dîm meddygol hawdd mynd ato a chefnogol, gan roi’r claf yn gyntaf a sicrhau ein bod yn gweithio hyd eithaf ein gallu.
Fel tîm clinigol blaengar, rydym yn ymrwymedig i greu cyfleoedd i chi ffynnu yn BIPBC. Rydym yn awyddus i chi fod yn angerddol am uwchsgilio eich gwybodaeth, gan ragori mewn gofal cleifion a chan ddefnyddio ymchwil blaengar i ategu’r broses o reoli meddyginiaethau Diabetes newydd.

Canser
Ar draws BIPBC, mae Tîm Fferylliaeth Ganser wedi’i ymgorffori’n llawn yn y tîm clinigol ac mae’n aelod hanfodol o dîm amlddisgyblaethol canser. Mae rolau a gwasanaethau a ddarperir gan fferylliaeth yn prysur ehangu i ATOs, Technegwyr Fferylliaeth a Fferyllwyr.
Mae gennym gyfleoedd cyffrous ar gael ar gyfer rolau traddodiadol ac arloesol mewn Fferylliaeth, lle byddwch yn rhagnodi mewn rowndiau ward a chlinigau, arwain at ofal iechyd o’r radd flaenaf i gleifion canser ac yn cynnal rhagnodi electronig ar gyfer cemotherapi a thriniaethau cysylltiedig. Byddwch hefyd yn rhoi cymorth o ran symud triniaethau’n agosach at y cartref yn cynnwys gwasanaethau allgymorth gan gynnwys Oncoleg Aciwt a Gofal Lliniarol. Rydym yn cynnig hyfforddiant eang ac mae gennym gyfleoedd am gymwysterau Ôl-radd a chymryd rhan mewn cynadleddau cenedlaethol!

Rhiwmatoleg
Os yw cynnig cyfraniadau ystyrlon i ofal cleifion yn mynd â’ch bryd chi trwy reoli therapïau Gwrth-riwmatig sy’n Addasu Afiechyd (yn rhai confensiynol ac wedi’u targedu), neu os ydych yn awyddus i ddefnyddio eich cymhwyster rhagnodi presennol, mae gennym gyfleoedd anhygoel i chi yn Adran Rhiwmatig BIPBC.
Mae opsiynau ffarmacolegol i reoli cyflyrau ym maes Rhiwmatoleg yn esblygu ar garlam, felly gallwch ailddarganfod eich angerdd dros arfarnu critigol a chwilota llenyddiaeth, a chyffroi wrth gyflawni rôl o ran cymeradwyo, rhagnodi a monitro therapïau biolegol hynod arbenigol a chyfryngau therapiwtig newydd.
Ochr yn ochr â chefnogi’r broses o fabwysiadu meddyginiaethau sydd wedi’u cymeradwyo’n genedlaethol yn eich rhanbarth, gallwch integreiddio i’r tîm amlddisgyblaethol lle gallwch rannu pwysigrwydd rheoli meddyginiaethau’n effeithiol, cyfleu datblygiadau perthnasol i’ch tîm ac ennill dealltwriaeth gan arbenigeddau eraill sydd ar flaenau eich bysedd.
Cyfle Clinigol i Arbenigwyr Technegol Fferylliaeth
Cyn cofrestru: gellir ymgymryd â hyfforddiant ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd a bydd cyfranogwyr yn gorffen gyda Thystysgrif Addysg Uwch lefel 4 gan HEIW a Phrifysgol East Anglia. Mae’r cwrs hwn wedi’i ariannu’n llawn ar Fand 4, gradd U atodol.
Ôl-gofrestru: amrywiaeth o opsiynau gan ddibynnu ar eich maes diddordeb gan gynnwys therapiwteg glinigol, arweinyddiaeth, rheoli meddyginiaethau, ac addysg. Derbynnir deirgwaith y flwyddyn i raglen ACPT a rhaglen Rheoli Meddyginiaethau a ariennir yn ganolog, ac ar hyn o bryd, mae llawer o’n technegwyr mewn gofal sylfaenol ac eilaidd yn ymgymryd â diploma clinigol a ariennir am ddwy flynedd.

Rotation & Professional Development
We’re passionate about supporting our Pharmacy team to expand their skills and reach their potential as well as actively supporting and encouraging career progression. There’s a wealth of opportunities across our services and a clear vision for our services. So, if you’re keen to develop, there’s plenty of opportunities to pick your career path and step outside of the norm for a Pharmacist.
Rhowch eich manylion ac fe wnawn ni gysylltu â chi


