Rydym nawr yn recriwtio Fferyllwyr Clinigol a Thechnegwyr Fferylliaeth
Rolau Fferylliaeth
Sgroliwch at yr hyn sydd o ddiddordeb

Mae ein tîm Fferylliaeth yng Ngogledd Cymru yn amgylchedd cyffrous i fod yn rhan ohono. Rydym yn gymuned iechyd integredig a ni yw sefydliad iechyd mwyaf Cymru, yn darparu ystod lawn o wasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl, ysbytai acíwt a dewisol i boblogaeth o tua 700,000 ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn caniatáu i staff weithio a chyrchu hyfforddiant ym mhob lleoliad a mwynhau rôl sy’n wirioneddol amlsector.
Mae gennym lu o gyfleoedd yn ein gwasanaethau ar gyfer Fferyllwyr a Thechnegwyr Fferylliaeth mewn nifer o leoliadau. Pan ddowch yn rhan o’r tîm yn BIPBC, fe gewch chi’r gorau o ddau fyd – yn gweithio ar y lefel uchaf yn broffesiynol ac yn byw mewn ardal brydferth ble gallwch chi fwynhau bywyd yn fawr.
Yn BIPBC, rydym yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol. Ceir gweledigaeth eglur ar gyfer ein gwasanaethau, ac os ydych chi’n awyddus i ddatblygu, mae digonedd o gyfleoedd i gael profiadau sy’n wahanol i’r arfer. Byddwch yn gallu pennu cyfeiriad go iawn i’ch gyrfa, yn amrywio o waith amlsector i rolau Fferylliaeth Glinigol arbenigol.

Meysydd Fferylliaeth
Fferylliaeth Gymunedol
Mae Fferylliaeth Gymunedol yng Ngogledd Cymru yn llawer ehangach nag y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf. Mae darparu gwasanaethau gwerthfawr i’n cleifion a’n cymunedau ac mae gweithio ym maes Fferylliaeth Gymunedol yn hynod o werth chweil. Yn sgil y contract Fferylliaeth Gymunedol newydd yng Nghymru (Presgripsiwn Newydd), mae’r sector yn trawsnewid ei hun yn ddarparwr gwasanaethau clinigol sydd â Fferyllwyr sy’n rhagnodi’n annibynnol yn greiddiol iddo. Mae hyn yn golygu y gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch sgiliau clinigol i helpu cleifion mewn ffyrdd newydd a gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol integredig. Caiff hyn ei ategu ymhellach gan y rolau traws-sector sydd ar gael yng Ngogledd Cymru, sy’n golygu treulio amser yn gweithio ym maes fferylliaeth gymunedol ynghyd â phractisiau cyffredinol neu ysbytai.

Fel arbenigwyr mewn meddyginiaethau a sut cânt eu defnyddio, bydd ein timau Fferylliaeth Gymunedol yn gweithio’n galed i sicrhau y gall cleifion elwa’n llawn o’u meddyginiaethau. Fel rhan o’r gweddnewid, byddwch yn cael cyfle i hyfforddi fel fferyllydd sy’n rhagnodi’n annibynnol neu dechnegydd fferylliaeth sy’n gwirio cywirdeb, sy’n golygu y gallwch chi ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn effeithiol er mwyn cynorthwyo eich cleifion yn well, trwy optimeiddio therapi, trin mân anhwylderau, neu ddarparu gwasanaethau ychwanegol eraill.
Fel llawer o bobl yng Ngogledd Cymru, mae ein timau Fferylliaeth Gymunedol yn ddigynnwrf, yn gyfeillgar ac yn groesawgar. Gan weithio fel clystyrau gofal sylfaenol, mae ein fferyllwyr a’n technegwyr fferylliaeth yn cydweithio â darparwyr gofal sylfaenol eraill i ddarparu gofal heb ei ail. Rydym yn rhedeg rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid i bresgripsiynwyr annibynnol ym maes fferylliaeth gymunedol, ac mae gwaith traws-sector ar sawl lefel yn golygu y byddwch yn gallu tyfu, dysgu a datblygu eich sgiliau.
Pa un ai a ydych chi newydd gymhwyso neu â blynyddoedd o brofiad, efallai fod gennym gyfle i chi!

Gwasanaethau Fferylliaeth Iechyd Meddwl
Trwy gyfrwng ein Gwasanaeth Fferylliaeth Iechyd Meddwl, rydym yn paratoi’r ffordd i arloesi a’n gweledigaeth yw sicrhau gofal integredig a chydweithio’n agos â chydweithwyr fel y caiff cleifion ofal di-dor.
Mae’n adeg gyffrous i weddnewid ein gwasanaethau fferylliaeth, ac yn sgil buddsoddi sylweddol yn ein Gwasanaethau Fferylliaeth Iechyd Meddwl, rydym yn chwilio am Fferyllwyr Clinigol a Thechnegwyr Fferylliaeth blaengar, dynamig ac ymroddgar i ymuno â thîm sy’n ehangu.
Rydym yn llunio’r dyfodol trwy ehangu ein gwasanaethau i’r gymuned, cynorthwyo cleifion yn eu cymunedau lleol trwy optimeiddio meddyginiaethau, a darparu dull cyfannol o ymdrin ag iechyd meddwl a lles corfforol. Rydym hefyd yn cefnogi dulliau electronig o ragnodi a mesur cydymffurfiaeth â’r defnydd o feddyginiaethau.

Mae ein Fferyllwyr yn glinigwyr mawr eu parch a chewch eich cefnogi i ddatblygu eich rôl fel presgripsiynydd anfeddygol a datblygu sgiliau clinigol perthnasol trwy gyfrwng Fframwaith Fferylliaeth Uwch RPS (sy’n cael ei danategu gan dystysgrif/diploma a chadarnhau cymwysterau gan y Coleg Fferylliaeth Iechyd Meddwl).
Wrth weithio yn y Gwasanaeth Fferylliaeth Iechyd Meddwl, byddwch yn rhan anhepgor o’r tîm amlddisgyblaethol yn cwmpasu ystod eang o arbenigeddau, a byddwch yn canolbwyntio ar optimeiddio meddyginiaethau i gleifion, yn cynnwys cyfleoedd i gael cyswllt uniongyrchol â chleifion. Mae BIPBC wedi ymrwymo i ofalu am ein cleifion yn eu cymunedau eu hunain a byddwch yn cydweithio â’n holl gydweithwyr ym meysydd gofal sylfaenol ac eilaidd i gefnogi cleifion trwy gydol eu taith.
Mae’n rôl sy’n cynnig boddhad mawr fel rhan o dîm cyffrous a blaengar!

Technegwyr Fferylliaeth
Rydym yn chwilio am dechnegwyr fferylliaeth sydd wedi magu llaw at dechnoleg ac a fyddai’n mwynhau’r profiad a’r her o gyflawni a chynorthwyo i weithredu systemau fferylliaeth electronig newydd ledled BIPBC a fydd yn dylanwadu’n gadarnhaol ar lif gwaith a chyfathrebu yn holl sectorau fferylliaeth, gan ategu gwasanaeth fferylliaeth di-dor ymhellach.
Rydym ni yn BIPBC yn ystyriol o’r gymysgedd sgiliau sy’n ofynnol ac yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae technegwyr fferylliaeth yn ei wneud, ac felly, rydym wedi datblygu rolau cyffrous ar gyfer uwch dechnegwyr fferylliaeth. Byddwn yn aml yn sicrhau cyfleoedd i dechnegwyr fferylliaeth gyflawni rhagor o gymwysterau, yn cynnwys diplomâu clinigol a chymwysterau ym meysydd arwain, rheoli a gwella gwasanaethau, ac addysg a hyfforddiant i’w cynorthwyo i ddatblygu a dod yn eu blaen yn eu gyrfaoedd ym maes fferylliaeth.
Mae gennym gyfleoedd cyffrous mewn ysbytai acíwt, ysbytai cymunedol, y gwasanaeth carchardai a gofal sylfaenol, yn cynnwys practisiau meddygon teulu a chartrefi gofal. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cyflawni gwasanaethau megis cyflenwi meddyginiaethau, gwirio cywirdeb presgripsiynau, a chaffael a gweithgynhyrchu ym maes fferylliaeth. Mae ein Technegwyr Fferylliaeth yn cydweithio’n agos â Fferyllwyr sy’n gydweithwyr iddynt i sicrhau y caiff meddyginiaethau eu rheoli’n ddiogel ac yn gywir i’n cleifion, rhyddhau cleifion o wardiau, a sicrhau y cânt eu trosglwyddo’n ôl i ofal sylfaenol yn ddiogel ac yn gywir.

Technegwyr Fferylliaeth Gymunedol
Fel Technegydd Fferylliaeth ym maes Fferylliaeth Gymunedol, mae cyfleoedd ar gael i wirio cywirdeb ac i gynnig gwasanaethau clinigol, yn cynnwys cynorthwyo cleifion sy’n cael triniaethau ynghylch camddefnyddio sylweddau, cynorthwyo cleifion i roi’r gorau i ysmygu, a darparu cymorth i gartrefi gofal ynghylch meddyginiaethau.

Technegwyr Fferylliaeth Iechyd Meddwl
Mae gennym gyfleoedd gwych i Dechnegwyr Fferylliaeth ym maes iechyd meddwl. Mae ein technegwyr yn rhan allweddol o dîm y Gwasanaeth Fferylliaeth Iechyd Meddwl ac yn rhan o wasanaethau eraill megis y Timau Iechyd Meddwl Cymuned a thimau triniaethau yn y cartref, ac maent yn aelodau anhepgor o’r tîm amlddisgyblaethol. Mae ein Technegwyr Fferylliaeth yn arbenigwyr yn y gwaith o reoli a chyflawni awtomeiddio ar ein wardiau acíwt, ac mae’r cynnydd hwn o ran gallu yn caniatáu i ni ddatblygu gwasanaethau newydd ac ehangu rolau presennol megis rheoli closapin. Mae ein technegwyr hefyd yn datblygu rolau newydd yn y gymuned, yn cynnwys datblygu rolau allweddol ym maes rheoli meddyginiaethau.

Fferyllydd Clinigol Arbenigol
Yn BIPBC, byddwch yn cael cyfle i ddewis eich galwedigaeth a’ch arbenigedd ym maes Fferylliaeth, sy’n golygu y gallwch ddatblygu eich gyrfa a chanfod ym mha faes y gwnewch chi ffynnu. Fel un o Fferyllwyr Clinigol BIPBC, byddwch yn rhan hanfodol o’r Tîm Amlddisgyblaethol a chewch eich annog i weithio’n annibynnol. Diolch i gyfleoedd i dyfu, datblygu a mireinio eich sgiliau arbenigol, byddwch yn cael yr holl gefnogaeth a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch. Mae gennym ni gyfleoedd sy’n cwmpasu ystod eang o arbenigeddau.

Cylchdroi a Datblygu
Rydym yn frwdfrydig ynghylch cefnogi ein tîm Fferylliaeth i ehangu eu sgiliau a chyflawni eu potensial, yn ogystal â mynd ati i hwyluso ac annog dringo’r ysgol gyrfa. Ceir llu o gyfleoedd yn ein holl wasanaethau ac mae gennym weledigaeth eglur ar gyfer ein gwasanaethau. Felly, os ydych chi’n awyddus i ddatblygu, mae digonedd o gyfleoedd ar gael i ddewis llwybr eich gyrfa a chael profiadau sy’n wahanol i brofiadau arferol Fferyllydd.

Pam ddylech ymuno â BIPBC
Dywed llawer o’n staff fod yr ardal leol yn un o fanteision pennaf gweithio yn ein Bwrdd Iechyd. Mae Gogledd Cymru yn cynnig cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith, ac yn cynnig ardaloedd prin eu poblogaeth, traethau, mynyddoedd a chysylltiadau cludiant gwych â dinasoedd cyfagos, sy’n golygu y bydd digonedd o gyfleoedd i grwydro bob amser. Mae gan Ogledd Cymru lawer i’w gynnig i breswylwyr newydd, a cheir bwytai rhagorol sy’n gweini bwyd wedi’i gyrchu’n lleol. Hefyd, ceir cyfleoedd a ariennir i ddysgu’r Gymraeg os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Ceir yma bentrefi hardd a thai o ansawdd uchel am brisiau eithriadol o fforddiadwy, ac amgylcheddau naturiol heb eu difetha gerllaw. Mae’n ddigyffelyb!
Rydym yn cynnig treuliau adleoli yn achos rhai swyddi penodol – holwch ni!
Rhowch eich manylion ac fe wnawn ni gysylltu â chi


