Ydych chi’n barod i ymuno â’n hadran Iechyd Meddwl ac Anawsterau Dysgu?

AQ5A2531 Min
P1035498

Nyrsio yn BIPBC

Caiff ein Nyrsys eu hannog i weithredu fel ymarferwyr annibynnol, gan reoli eu llwyth achosion fel rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae’n bosibl y bydd yr Uwch Adran hon yn addas os ydych yn mwynhau amrywiaeth a gweithio mewn amgylchedd prysur, gyda llawer o le i dyfu a datblygu. Darllenwch isod am rai o fanteision dewis Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa nyrsio.

    • Mae cyfleoedd i nyrsys ymgymryd â hyfforddiant rhagnodi, gan gefnogi rhagor o ymarfer a arweinir gan nyrsys.
    • Mae Cymru wedi cadw bwrsari’r GIG ar gyfer nyrsys, bydwragedd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd dan hyfforddiant. Mae’r pecyn cymorth hwn yn anfon neges glir o ran y graddau y caiff y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru ei werthfawrogi.
    • Mae sawl sefydliad addysg uwch yng Nghymru sydd wedi’u cymeradwyo i ddarparu hyfforddiant cyn ac ar ôl cofrestru. Drwy ddewis hyfforddi yng Nghymru, gallwch gael profiad ymhob maes nyrsio.
    • Drwy weithio yng Nghymru, gallwch fanteisio ar amrywiaeth o drefniadau gweithio arloesol gyda’r nod o’ch helpu i sicrhau bod eich gwaith yn cyd-fynd â’ch bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys oriau gwaith hyblyg, cynlluniau talebau gofal plant a mentrau cydbwysedd gwaith-bywyd.
    • Llwybr clir i ymarfer uwch. Mae gan Gymru fframwaith gyrfaoedd sy’n rhoi llwybr clir i chi i’r cymwysterau ôl-raddedig sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich gyrfa.
    • Mae gennym nifer o gyfleoedd ar gyfer y rhai sydd eisiau dychwelyd i ymarfer ar ôl gadael y proffesiwn i ddilyn pethau eraill neu sydd wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith. Mae cymorth gwych ar gael gennym yn ogystal â chyfleoedd gweithio hyblyg i gefnogi ein Nyrsys wrth iddynt ddychwelyd i ymarfer.

Cynorthwyydd Gofal Iechyd yn BIPBC

Mae gan yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu gyfleoedd gwych i Gynorthwywyr Gofal Iechyd. Mae ein holl Gynorthwywyr Gofal Iechyd wedi’u cyflogi ar Fand 3. Gallwch hyd yn oed weithio wrth astudio ar gyfer eich gradd nyrsio a chael budd o swyddi cylchdro er mwyn cael profiad cynhwysfawr. Rydym wrthi’n recriwtio Cynorthwywyr Gofal Iechyd ym mhob gwasanaeth yn yr Uwch Adran ar hyn o bryd.  

P1035602

Fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd yn ein Huwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm amlddisgyblaethol i ddarparu lefel gyfannol uchel a chyson o ofal wrth gynnal urddas a chydraddoldeb defnyddwyr gwasanaethau. Bydd rhai o’ch dyletswyddau yn cynnwys:

 

    • Helpu’r Clinigydd i ddarparu gofal i unigolion o ddydd i ddydd
    • Monitro ac arsylwi ar newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr gwasanaethau, a’u cyflwr corfforol a meddyliol, a rhoi gwybod am hyn i’r prif nyrs.
    • Ysgrifennu a diweddaru nodiadau nyrsio yn unol â pholisi BIPBC
    • Cymryd rhan mewn trafodaethau amlddisgyblaethol ynghylch asesiadau risg; gan sicrhau diogelwch unigolion, defnyddwyr gwasanaethau a staff.
P1035782
AQ5A7243

 

Datblygu Gyrfa ar gyfer Cynorthwywyr Gofal Iechyd

Gyda chyllid a chymorth addysgol gan Lywodraeth Cymru a’n partneriaid Addysg Bellach ac Uwch, rydym yn cynnig ystod o gymwysterau galwedigaethol ar gyfer ein gweithwyr gofal. Mae hyn yn golygu bod gennym lwybrau clir ar gyfer ein Cynorthwywyr Gofal Iechyd i wella yn eu gyrfaoedd. Mae gan ein Cynorthwywyr Gofal Iechyd pedwar prif lwybr datblygu sydd ar gael iddynt:

  • Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal – galluogi’r rhai sydd heb weithio mewn gofal o’r blaen i gael profiad a chymwysterau proffesiynol i gryfhau eu sylfaen wybodaeth. 
  • Baglor mewn Nyrsio – mae astudio rhan-amser yn galluogi i’n Cynorthwywyr Gofal Iechyd barhau i wneud y swyddi y maent yn eu caru wrth weithio tuag at yrfa mewn nyrsio. 
  • Gradd Prifysgol Agored – mae’r dull hwn o astudio gartref yn galluogi hyd yn oed mwy o hyblygrwydd i’n Cynorthwywyr Gofal Iechyd barhau i weithio wrth ennill eu cymhwyster nyrsio. 
  • Tystysgrif Lefel 4 ar gyfer Cynorthwyydd Gofal Iechyd Clinigol – galluogi cynorthwywyr Gofal Iechyd i ddatblygu yn y rôl y maent yn ei charu gyda’r cymwysterau achrededig i gefnogi eu profiad ac agor drysau i fwy o gyfrifoldeb a mwy o gydnabyddiaeth ariannol.

Bydd ein Cynorthwywyr Gofal Iechyd yn cael eu cefnogi’n llawn ar ba gam bynnag y maent yn eu gyrfa ond bydd ganddynt bob amser y cyfle i weithio gyda mwy o ymreolaeth, gyda’r cymorth a’r hyfforddiant cywir. Rydym yn cefnogi ein Cynorthwywyr Gofal Iechyd i ddatblygu o gymwysterau Lefel 2 i Lefel 4 ac rydym o hyd yn annog datblygiad proffesiynol.

AQ5A5921 Min

Beth sydd ynddo i chi?

Mae Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC yn cynnig amrywiaeth o fuddion i’w staff nyrsio a gofal iechyd, gan gynnwys:

  • Gwiriadau am ddim gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd  
  • Parcio am ddim
  • Cyfleoedd i gamu ymlaen yn eich gyrfa, gan gynnwys prentisiaethau
  • Amgylchedd cyfeillgar, croesawgar a chefnogol i ddatblygu a dysgu
  • Mynediad at hyfforddiant sgiliau clinigol er mwyn tyfu a datblygu yn eich gyrfa
  • Mae ein cyfleoedd gweithio hyblyg yn galluogi i’n staff Nyrsio barhau i wneud yr hyn y maent yn eu caru yn ogystal â darparu’r gofal gorau posibl i’w cleifion.
  • cynllun talebau gofal plant

Os ydych yn mwynhau amrywiaeth a gweithio mewn amgylchedd prysur, yna gall rôl yn nhîm nyrsio’r Uwch Adran fod yn addas i chi.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â thîm anhygoel o staff. Mae fy swydd yn rhoi cymaint o foddhad mi. Gallwch ddysgu ystod amrywiol o sgiliau ym mhob agwedd ar nyrsio iechyd meddwl ar draws ein safleoedd i gyd.
- Amanda Thompson, Rheolwr Ward Dros Dro

Rhowch eich manylion ac fe wnawn ni gysylltu â chi