Rydym yn recriwtio ar gyfer Rolau Seiciatryddon Ymgynghorol ac Arbenigol ar hyn o bryd.

Seiciatrydd Ymgynghorol a Rolau Arbenigol

Mae gennym gyfleoedd i Feddygon Ymgynghorol, Meddygon Arbenigol a Seiciatryddion Oedolion ymuno â’n tîm. Rydym yn dîm cyfeillgar a chefnogol, felly p’un a ydych yn feddyg dan hyfforddiant neu os ydych wedi bod yn y proffesiwn meddygol ers blynyddoedd, byddwch yn teimlo’n gartrefol yn Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC.

Ni waeth ble rydych yn eich gyrfa, gall symud i Gymru helpu i roi hwb i’ch gyrfa gyda’r cyfle i weithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau meddygaeth o’r radd flaenaf. Dyma rai o’r rhesymau y dylech ein dewis ni:

  • Mae’r amgylchedd yn Betsi yn cynnig cydbwysedd ardderchog. Fel meddyg dan hyfforddiant, cewch eich cefnogi i gydbwyso eich astudiaethau â chyfrifoldebau clinigol.
  • Mae Cymru yn gartref i chwe bwrdd iechyd prifysgol, bwrdd iechyd addysgu a thair ymddiriedolaeth, ac mae pob un yn cyfrannu at enw da haeddiannol am ymchwil ryngwladol.
  • Gall Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Betsi gynnig hyblygrwydd, gan alluogi clinigwyr i gyfuno gwaith clinigol ac ymchwil.
  • Rydym yn bwriadu sefydlu ysgol feddygaeth newydd a fydd yn cynnig cyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn hyfforddiant ac addysg.

Pam Gogledd Cymru

Mantais gwirioneddol i weithio yn ein Bwrdd Iechyd yw’r tirwedd hyfryd sy’n amglchynu PBC. Mae ein gweithlu Meddygol yn gallu mwynhau’r cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith, gan fwynhau gweithgareddau fel cerdded, rhedeg, syrffio, nofio – nid yw byd natur byth yn bell.

Mae gogledd Cymru hefyd yn llawn cyfleoedd diwyllianol – Eisteddfod Llangollen sydd yn ddigwyddiad blynyddol a theatrau fel Theatr Clwyd, a Venue Cymru a’u harlwy amrywiol. Yn ogystal â hyn, mae cysylltiadau trafnidiaeth gwych rhwng ein gweithlefydd a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion, a digon o gyfle i fynd ar swrnai yno. Mae llawer o’n meddygon yn dewis teithio o ddinasoedd mwy hefyd.

Ond os ydych yn chwilio am newid neu am aros yn yr ardal, mae Gogledd Cymru yn cynnig tai fforddiadwy iawn mewn pentrefi delfrydol a hynny mewn amgylchedd naturiol sydd heb ei difetha – byddwch yn syrthio mewn cariad â’n bryniau, ein mynyddoedd, ein traethau hardd, ac wrth gwrs â Pharc Cenedlaethol Eryri.

Rhowch eich manylion ac fe wnawn ni gysylltu â chi