Rydym yn recriwtio ar gyfer rolau Gweinyddol a Chlercyddol

Nid yw’r rolau gweinyddol a chlercyddol yn rhai nodweddiadol yma yn Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC. Drwy weithio yma, cewch y cyfle i gamu ymlaen yn eich gyrfa a’i datblygu gyda mentrau hyfforddiant a’r cyfle i weithio o leoliadau trawiadol. Er enghraifft, mae’n debyg mai ein swyddfa ym Mron Castell yw’r unig swyddfa lle gallwch weld castell o’ch ffenestr! Darllenwch ymlaen i ddysgu am y cyfleoedd gwych y gall rôl weinyddol neu glercol eu cynnig yn BIPBC:
- mae Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Betsi yn cynnig cyfleoedd i gamu ymlaen a datblygu, e.e. cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant coetsio a mentora, cymryd cofnodion, a chyrsiau arwain a rheoli.
- Gallwch ddatblygu eich gyrfa gydag Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Betsi. Mae llawer o’n staff wedi datblygu drwy’r bandiau ac wedi cael eu cefnogi gan y rheolwyr i achub ar gyfleoedd i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd a datblygu eu sgiliau.
- Yn y gwasanaethau cymorth, byddwch yn chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi staff a defnyddwyr gwasanaethau, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
- Mae cyfle i ymgymryd â rôl heriol sy’n rhoi boddhad, a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Gweithio hyblyg
Mae lles ein cydweithwyr yn bwysig i ni ac rydym yn cynnig cyfleoedd gweithio hyblyg fel bod gan ein staff yr holl gyfleoedd i allu parhau gyda’r gyrfaoedd y maent yn eu caru heb gyfaddawdu eu bywydau y tu allan i’r gwaith.
Myfyriodd un o’n cydweithwyr ar sut y mae ein cyfleoedd gweithio hyblyg wedi bod o fudd iddynt a sut y maent wedi darparu cyfleoedd i wella:
“Wrth i mi ddechrau fy mhrentisiaeth, daeth y pandemig COVID-19… Roeddwn yn fam sengl yn byw ar ben fy hun gyda dau o blant. Galluogodd fy rheolwr llinell ar y pryd i mi weithio’n hyblyg. Gweithiais yn y swyddfa yn ystod oriau ysgol a gweithiais gartref am yr oriau a oedd yn weddill.”
Cyfleoedd gyrfa
Yn BIPBC, rydym yn gwerthfawrogi ein prentisiaid a’u cyfraniad pwysig. Dyna pam bod ein prentisiaid yn cael cynnig yr un buddion anhygoel â gweithwyr llawn amser, gyda gwyliau blynyddol, cyflog a buddion technolegol yn ogystal â chyflawni datblygiadau academaidd drwy gwblhau eu diplomau NVQ.
Gyda’r sgiliau a’r cymwysterau a enillwyd o gwblhau eu prentisiaethau gyda ni yn BIPBC, rydym wedi gweld ein prentisiaid yn gwneud cynnydd i mewn rolau gweinyddol a rheoli uwch.
Mae ein prentisiaid yn teimlo nad oes dim y tu hwnt i’w cyrraedd yma yn BIPBC o fewn Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Rydym yn annog dysgu parhaus i’n gweithwyr ac rydym yn cynnal amryw o sesiynau hyfforddi i’n prentisiaid eu mynychu.
Rhowch eich manylion ac fe wnawn ni gysylltu â chi


