Rydym yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth o swyddi yn ein tîm Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu!
Uwch Adran Iechyd Meddwl
Yn BIPBC rydym yn falch o fod yn arloeswyr gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anawsterau Dysgu
Darllenwch fwy o’r adrannau hyn

Mae Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig cyfle gwych i chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi defnyddwyr gwasanaethau a’r gymuned ehangach.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, ar gyfer amrywiaeth o rolau a gwasanaethau, i ymuno â’n Huwch Adran a helpu i sicrhau y darperir gofal tosturiol ac o ansawdd uchel.
Holwch heddiw os oes diddordeb gennych mewn gyrfa heriol ond sy’n rhoi boddhad yng Ngogledd Cymru!

Yn BIPBC, rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol yn ein Huwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu:
- Unedau Seiciatrig Acíwt i Gleifion Mewnol wedi’u lleoli ar safle Ysbyty Gwynedd ym Mangor; Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan; Ysbyty Maelor yn Wrecsam; ac Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan
- Uned Diogelwch Canolig Fforensig ac Unedau Anabledd Dysgu i Gleifion Mewnol yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan.
- Unedau Adsefydlu i Gleifion Mewnol a Gofal Cymunedol Uwch i Ddefnyddwyr Gwasanaethau Anabledd Dysgu ac amrywiaeth o wasanaethau cymunedol a gwasanaethau arbenigol ledled Gogledd Cymru.
- Darperir sawl gwasanaeth anghlinigol yn yr Uwch Adran hefyd, gan gynnwys y tîm Cynllunio Partneriaethau a Strategaeth a rolau sy’n cefnogi’r Uwch-dîm Arwain Uwch Adrannol.
- Gwasanaethau Cyswllt Mae tri Gwasanaeth Cyswllt wedi’u hachredu gan PLAN yn y gogledd, ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaeth ‘craidd 24’ i’r ysbyty cyffredinol dosbarth lleol. Cânt eu harwain ar y cyd gan seiciatrydd ymgynghorol a rheolwr gwasanaeth, sy’n gweithio’n agos gyda’r arweinwyr tîm a’r uwch-glinigwyr ar bob safle.

- Gwasanaethau Cymunedol Oedolion Mae gwasanaethau seiciatrig oedolion yn seiliedig ar Dimau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol sy’n cyflenwi gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i boblogaethau dalgylch diffiniedig. Caiff y timau eu trefnu’n unol â’r chwe Awdurdod Lleol.
- Gwasanaethau Gofal Acíwt Caiff Gofal Acíwt ei gyflenwi o’r tri chyfleuster i gleifion mewnol yn yr ysbytai cyffredinol dosbarth yn Uned Hergest Ysbyty Gwynedd, Bangor, Uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd ac Uned Heddfan, Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae dwy uned PICU wedi’u lleoli ym Mangor ac yn Wrecsam.
- Gwasanaethau Adsefydlu Ar hyn o bryd, mae tair uned adsefydlu ar agor i gleifion mewnol, sef Carreg Fawr yn Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan yn y gorllewin; Tan y Castell yng nghanol Rhuthun; a Coed Celyn yn Wrecsam. Mae uned adsefydlu dwys dan glo yn Uned Ablett yn yr ardal ganolog. Caiff yr unedau adsefydlu eu rheoli gan feddygon ymgynghorol adsefydlu penodedig a’u cefnogi gan dimau Adsefydlu Cymunedol.

- Gwasanaethau Fforensig Mae’r Gwasanaethau Fforensig wedi’u lleoli yn Uned Diogelwch Canolig Tŷ Llewelyn; uned a adeiladwyd yn ddiweddar gyda thimau cymunedol fforensig amlddisgyblaethol, a Seiciatryddion Fforensig Ymgynghorol. Mae Adran Seicoleg ddatblygedig yn y gorllewin sy’n cydweithio’n agos ag adran Seicoleg Prifysgol Cymru, Bangor.
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn OCaiff Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn eu darparu yn y gymuned gan dimau iechyd meddwl cymunedol a chânt eu trefnu yn unol â’r Awdurdodau Lleol. Maent yn darparu gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd, yn ogystal â gwasanaethau’r cof.
Yn y Gorllewin, mae uned yn Ysbyty Cefni yn Llangefni i gleifion ag anhwylderau gwybyddol yn bennaf. Mae gwelyau i gleifion mewnol yn yr ardal Ganolog wedi’u lleoli ym Mryn Hesketh ym Mae Colwyn ar gyfer anhwylderau gwybyddol yn bennaf ac ar ward Tegid ym Modelwyddan i bobl hŷn ag anhwylderau meddwl gweithredol. Caiff cleifion o Wrecsam a Sir y Fflint eu derbyn fel cleifion mewnol i wardiau ar gyfer henoed bregus eu meddwl yn Uned Seiciatrig Heddfan, Wrecsam. Mae un ward ar gyfer anhwylderau gwybyddol yn bennaf ac mae’r llall i bobl hŷn ag anhwylderau meddwl gweithredol.

- Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau Mae chwe Thîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol a ddarperir mewn partneriaeth â phob Awdurdod Lleol yn gweithio ledled y gogledd. Ceir partneriaethau gweithredol o fewn y Timau Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau (SMAT) lleol, yr Heddlu a’r Gwasanaethau Prawf. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig Gwasanaeth Bydwreigiaeth Arbenigol a Gwasanaeth Lleihau Niwed symudol ar gyfer chwe sir y gogledd, y mae’r ddau ohonynt wedi cael eu nodi fel enghreifftiau cenedlaethol o arfer da.
Caiff gwasanaethau dadwenwyno ac adsefydlu i gleifion mewnol eu darparu yn Hafan Wen. Adeiladwyd yr uned hon yn bwrpasol i drin camddefnyddio sylweddau/alcoholiaeth a chaiff ei gweithredu gan Adferiad, darparwr annibynnol. Mae BIPBC yn rhoi mewnbwn meddygol i’r uned hon, sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam.
- Gwasanaeth Amenedigol Mae’r gwasanaeth hwn yn wasanaeth datblygedig â thîm amlddisgyblaethol bach, sy’n cydweithio’n agos â’r Gwasanaethau Cyswllt a Gwasanaethau i Fenywod, gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu eraill a Gwasanaethau Gofal Sylfaenol ar bob safle.
- Gwasanaethau Anableddau Dysgu Caiff gwasanaethau cymunedol eu darparu mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol unigol, yn seiliedig ar dimau amlddisgyblaethol. Caiff gwelyau arbenigol ar gyfer cleifion mewnol eu darparu yn Ysbyty Bryn y Neuadd. Mae’r Gwasanaeth Cymorth Dwys yn darparu asesiadau cymunedol a threfniadau ar gyfer rheoli ymddygiad heriol ac mae cynlluniau byw â chymorth a chynlluniau byw â chymorth dwys datblygedig ar waith.

Dewiswch Ogledd Cymru
Noda llawer o’n staff fod yr ardal leol yn fantais go iawn i weithio i’n Bwrdd Iechyd. Gan gynnig y cydbwysedd perffaith rhwng gwaith a bywyd, mae Gogledd Cymru yn cynnig ardaloedd prin eu poblogaeth a chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog i ddinasoedd cyfagos sy’n golygu bod digon i’w archwilio bob amser. Mae gan Ogledd Cymru lawer i’w gynnig i breswylwyr newydd. O bentrefi deniadol i dai o ansawdd uchel am brisiau arbennig o fforddiadwy a golygfeydd naturiol heb eu difetha dafliad carreg i ffwrdd – beth gewch chi well?
- Y tu allan i’r gwaith, gallwch fwynhau parc cenedlaethol mawr, llwybrau beicio mynydd pwrpasol, llwybr arfordir trawiadol, gwifren wib chwim, gwyliau bwyd, chwaraeon o safon ryngwladol ac antur rownd bob cornel.
- 55 munud yn unig o Lerpwl ac awr ac 16 munud o Fanceinion
- Cost byw isel – Amcangyfrifir bod cost cyffredinol byw yng Nghymru 15% yn is na gweddill y DU.

Llesiant a Buddion Staff
Yn BIPBC, rydym yn cefnogi llesiant ein staff yn weithredol. O fewn yr Uwch Adran Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, gall y staff fanteisio ar amrywiaeth o adnoddau llesiant a thîm penodol. Mae’r Gwasanaeth Lles, Gwaith a Ni yn cynnwys cwnselwyr penodol a mannau i ymlacio, mannau tawel a chyfleusterau campfa am ddim ar y safle.
Gall staff ddisgwyl lwfans gwyliau blynyddol hael, gostyngiadau staff a thalebau gofal plant hefyd.
Rhowch eich manylion ac fe wnawn ni gysylltu â chi


