Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn sefyllfa unigryw fel y sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wella iechyd a darparu gofal rhagorol ar draws Gogledd Cymru ac rydym yn dymuno penodi unigolion angerddol a medrus i ymuno â ni ar draws ystod o wasanaethau. 

Team of Betsi members

Pam ymuno â PBC?

Gyda chyfleoedd ar gyfer gweithio hyblyg ac amlsector, byddwch yn gweithio ymhlith unigolion medrus iawn sydd wedi ymrwymo i gyflawni’r un nod – darparu gofal eithriadol i gleifion.

Yn PBC rydym yn angerddol am ofalu am ein timau ac rydym yn cynnig llawer o fanteision, gan gynnwys cynlluniau talebau gofal plant a pholisïau cydbwysedd bywyd a gwaith.

Mae yna dai fforddiadwy yn lleol ac mae Gogledd Cymru yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan. O fryniau ymdonnog, mynyddoedd, traethau hardd ac Eryri, i gorau, grwpiau dawns a thimau rygbi. Mae gogledd Cymru yn llawn diwylliant gydag Eisteddfod Llangollen, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol, a theatrau fel Theatr Clwyd, a Venue Cymru. Byddwch yn gallu mwynhau amrywiaeth o adloniant hwyliog ac unigryw wrth ymwneud â’ch cymuned leol

Team of Stroke Service Practitioners

Gwasanaethau Strôc

Mae ein Gwasanaethau Strôc yn cael buddsoddiad sylweddol a chyffrous ar hyn o bryd ac rydym yn dymuno penodi Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd tosturiol i ymuno â’n timau. Gyda chysylltiadau cryf â’r Gymdeithas Strôc a digonedd o gyfleoedd ar gyfer addysg a datblygiad parhaus, byddwch yn gallu llywio’ch gyrfa eich hun.

Darganfyddwch fwy am sut rydym yn trawsnewid ein gwasanaeth i sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y claf

dysgu mwy am y Tîm Strôc

Group Outside

Gwasanaethau fferylliaeth

Mae gweithio mewn Fferylliaeth yn lle cyffrous i fod gyda digonedd o gyfleoedd ar gyfer Fferyllwyr Clinigol a Thechnegwyr Fferylliaeth. Yn PBC mae gweledigaeth glir ar gyfer ein gwasanaethau ac mae ein timau Fferylliaeth yn rhan hanfodol o’n tîm amlddisgyblaethol. Os hoffech chi fod yn rhan o dîm blaengar, gyda digon o gyswllt â chleifion a’r cyfle i weithio ar y lefel uchaf yn broffesiynol, darganfyddwch fwy am ymuno â’n tîm.

dysgu mwy am wasanaethau fferylliaeth

Betsi 3 01

Gwasanaethau CAMHS

Rydym yn dymuno penodi Nyrsys Iechyd Meddwl Cofrestredig (RMN), Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol cymwys i ymuno â’n tîm CAMHS blaengar. Gan arwain y ffordd gydag arloesedd, mae ein henw da fel arloeswyr therapïau trydedd don yn ymestyn yn ôl i’r 1990au. Fel rhan o’r tîm byddwch yn derbyn datblygiad proffesiynol rhagorol o fewn diwylliant o oruchwyliaeth glinigol gryf. Byddwch mewn cwmni da pan ymunwch â’n gwasanaeth blaengar!

dysgu mwy am wasanaethau CAMHS