Rydym yn recriwtio i ystod o rolau yn ein tîm CAMHS nawr!
Dysgu a Datblygu
Sgroliwch at yr hyn sydd o ddiddordeb

Dysgu a Datblygu
Os ydych chi’n ymuno â thîm CAMHS BIPBC ar ôl cymhwyso neu’n ddiweddarach yn eich gyrfa, rydyn ni yma i wneud yn siŵr eich bod yn cael yr hyfforddiant a’r datblygiad cywir i gyflawni eich nodau gyrfa.
Rydyn ni’n frwd dros ddatblygiad proffesiynol ein staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gydag ymrwymiad i annog dysgu gydol oes. Fel aelod o’n tîm, byddwch yn cael cefnogaeth datblygiad proffesiynol ardderchog o’r diwrnod cyntaf – gan gynnwys ein rhaglen Cynllun Carlam sy’n eich galluogi i ddatbygu a symud ymlaen o Fand 5 i Fand 6 mewn blwyddyn.

Rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant a datblygiad i gefnogi hyder, ymarfer o ansawdd uchel, ac i alluogi cynnydd. Pan fyddwch yn ymuno â’r tîm, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd ag amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi, fel:
- Rhaglen hyfforddi hyblyg sy’n eich galluogi i ddatblygu fel ymarferwyr arbenigol a therapyddion achrededig, yn debyg i lwybr IAPT yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y gallwch symud i Ogledd Cymru heb gyfaddawdu ar ddatblygiad gyrfa a chymhwyster.
- Mae ein perthynas gref â Phrifysgolion fel Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Bangor a’n cysylltiadau â chyrsiau seicoleg glinigol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu parhaus, sy’n golygu, pan fyddwch chi’n ymuno â BIPBC gallwch ddatblygu eich gyrfa fel y dymunwch.

- Rydyn ni’n darparu cyfleoedd ar gyfer amser ymchwil a datblygu i’n staff hefyd!
- Mae gan Seicolegwyr Clinigol Band 7 gyfle i symud ymlaen i swyddi Band 8A yn dilyn rhaglen preceptoriaeth ac atgyfnerthu.
- Llwybrau datblygu gyrfa broffesiynol mewn nyrsio, gwaith cymdeithasol a therapi galwedigaethol.
- Mae’r holl staff yn cael eu cefnogi i wneud hyfforddiant CBT ar Lefel 6 neu L7, ond maen nhw hefyd yn cael cyfle i hyfforddi mewn dulliau therapiwtig eraill wrth i’w meysydd diddordeb a sgiliau ddatblygu.
Mae eich galluogi chi i ffynnu yn bwysig i ni ac rydyn ni hefyd yn falch o gynnig swyddi cylchdro ynghyd â darparu cyfnodau helaeth o oruchwyliaeth glinigol, sy’n rhoi’r cyfle i chi gael profiad cyflawn yn gynnar yn eich gyrfa.

Swyddi Datblygu
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd, rydyn ni’n dechrau ar raglen drawsnewid gyffrous yn CAMHS Gogledd Cymru. Yn ogystal ag ehangu a gwella’r gwasanaethau a gynigiwn, gallwn hefyd ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i glinigwyr sydd â diddordeb mewn ymuno â’n gweithlu iechyd meddwl plant a phobl ifanc, neu ddatblygu gyrfa bresennol yn yr arbenigedd drwy amrywiaeth o gyfleoedd dysgu a datblygu.
Mae hyn yn cynnwys creu rolau mwy amrywiol sy’n agored i unigolion o amrywiaeth o gefndiroedd proffesiynol. Mae rhai o’r rolau’n cynnwys:

- Swyddi Datblygu Ymarferwyr CAMHS Band 6 – yn agored i nyrsys, gweithwyr cymdeithasol neu therapyddion galwedigaethol sydd newydd gymhwyso, neu weithwyr proffesiynol mwy profiadol sy’n awyddus i weithio ym maes CAMHS, ond heb yr hyder na’r profiad i drosglwyddo i swydd ar lefel Band 6.
- Swyddi Datblygu Addysg Iechyd Meddwl Band 6 – fel uchod, ond hefyd yn agored i gwnselwyr a therapyddion neu gymhwyster sy’n seiliedig ar addysg.
I’ch helpu i wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol a datblygu’r cymwyseddau sy’n ofynnol i weithio yn y maes clinigol gwerth chweil hwn, byddwch yn cael cynnig rhaglen sydd wedi’i deilwra i chi. Mae rhagor o wybodaeth am Raglen Dysgu a Datblygu MEDR CAMHS ar gael isod.
Please provide us with a few details and we’ll get back to you.


