Rydym yn recriwtio i ystod o rolau yn ein tîm CAMHS nawr!
CAMHS Rolau
Sgroliwch i’r ardal o ddewis

Gogledd Cymru yw’r lle gorau am weithwyr CAMHS proffesiynol. Mae tîm CAMHS Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn arwain y ffordd o ran arloesi.
Mae gennym gyfoeth o gyfleoedd yn ein gwasanaethau ar gyfer Nyrsys Iechyd Meddwl Cofrestredig, Ymarferwyr Iechyd Meddwl, Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Seicolegwyr, Uwch Ymarferwyr Nyrsio a HCAs i ymuno â ni. Pan fyddwch yn ymuno â’r tîm yn PBC, gallwch sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith – gyda chyfoeth o gyfleoedd datblygu gyrfaol a byw mewn ardal hardd lle gallwch fwynhau bywyd i’r eithaf.

Yn PBC, mae gennym bum tîm CAMHS arbenigol sy’n gweithio ar draws Gogledd Cymru a chaiff ein gwasanaeth ei staffio gan dimau amlddisgyblaethol sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi plant a phobl ifanc. Fel gwasanaeth integredig, mae gennym ystod eang o swyddogaethau. Mae hyn yn cynnwys:
- Cleifion Mewnol
- Timau dwys triniaeth yn y cartref
- Argyfwng a chyswllt yn yr ysbyty
- Ymyrraeth ac ataliaeth gynnar
- Gwasanaethau meddygon teulu
- Gwasanaethau yn yr ysgol
- Anhwylderau bwyta
- Gwasanaethau asesu a therapi CAMHS craidd.
Rydym yn cynnig ystod gyfoethog o therapïau a daw hyn gyda chyfleoedd i unigolion o ystod eang o broffesiynau. Waeth a ydych yn awyddus i ddilyn llwybr hyfforddiant therapiwtig mewn therapi teuluol, CBT, therapi dilechdidol, seicotherapi neu ganolbwyntio ar lwybr ar sail proffesiynau – gallwn eich helpu i lunio eich gyrfa.
Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am yr ystod amrywiol o swyddi sydd ar gael.
Rydym yn chwilio am unigolion sydd â’r brwdfrydedd sydd ei angen i ymgysylltu ag ystod eang o blant, pobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i ymuno â’n tîm er mwyn helpu i sicrhau bod modd cynnig gofal o ansawdd uchel ac sy’n drugarog.
Ar hyn o bryd, mae gennym gyfleoedd i unigolion ymuno â ni ar draws ystod o rolau a gwasanaethau gan gynnwys:

Mewngymorth Ysgolion
Byddwch yn rhan o’r broses gyffrous o gyflwyno ‘Mewngymorth’ ar draws Gogledd Cymru. Rydym yn recriwtio ymarferwyr dawnus ac ymroddedig o ystod o gefndiroedd (gan gynnwys nyrsio, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol, ffisio a gwaith ieuenctid i enwi ond ychydig!) i weithio gydag ysgolion ar draws y rhanbarth, gan ymuno â’n tîm fel Ymarferydd Iechyd Meddwl Addysg CAMHS.
Mae’r rôl heriol ac amrywiol hon yn rhan o’n prosiect ‘Mewngymorth’ arloesol i ddod â’r GIG ac ysgolion ynghyd. Byddwch yn cyflwyno hyfforddiant ar orbryder, iselder, anhwylderau bwyta, hunan-niwed a hunanladdiad yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â phenaethiaid ac uwch arweinwyr i wella polisïau lles iechyd meddwl cymunedol ysgolion.
Blynyddoedd Cynnar
Oes gennych chi ddiddordeb penodol mewn CAMHS yng nghyd-destun y blynyddoedd cynnar? Mae gan BIP swyddogaeth hynod gryf o ran y blynyddoedd cynnar yn ardal y dwyrain. Fel aelod o’n tîm, byddwch yn derbyn cymorth datblygu proffesiynol ardderchog a byddwch yn rhan o wasanaeth arloesol.
Cynorthwywyr Gofal Iechyd
Mae gan dîm CAMHS Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfleoedd ardderchog ar gyfer HCAs, gan gynnwys rolau Band 4 i Ymarferwyr Cyswllt. Gallwch weithio tra’r ydych yn astudio ar gyfer eich gradd nyrsio, ac elwa ar swyddi ar batrwm cylch i gael profiad cytbwys.

Seicolegydd
Fel Seicolegydd yn PBC, mae gennym ystod o swyddi amrywiol gan gynnwys rolau sy’n cynnwys arbenigeddau clinigol, datblygiad academaidd, ysgolion a chyfleoedd i ymgysylltu â’r agenda ymchwil. Byddwch yn cael digon o gyfleoedd i ddysgu a datblygu yn ogystal â rhoi arweinyddiaeth glinigol, gan eich galluogi i lywio eich gyrfa’n wirioneddol.
Mae ein swyddi datblygu i Seicolegwyr Clinigol Band 7 hefyd yn cynnig dilyniant awtomatig a llwybr carlam i Fand 8A yn dilyn rhaglen o breceptoriaeth ac atgyfnerthu. Ewch â’ch gyrfa i’r lefel nesaf fel rhan o dîm CAMHS arloesol a ffyniannus yn PBC.

Dysgu a Datblygu
Rydym yn angerddol am gefnogi ein tîm CAMHS o ran ehangu eu sgiliau ac i gyrraedd eu potensial yn ogystal â chefnogi ac annog dilyniant gyrfaol yn weithredol. Mae cyfoeth o gyfleoedd ar draws ein gwasanaethau a gweledigaeth glir. Felly, os ydych yn awyddus i ddatblygu, mae digon o gyfleoedd i ddewis eich llwybr gyrfaol.

Pam ddylech ymuno â BIPBC
Dywed llawer o’n staff fod yr ardal leol yn un o fanteision pennaf gweithio yn ein Bwrdd Iechyd. Mae Gogledd Cymru yn cynnig cydbwysedd perffaith rhwng bywyd a gwaith, ac yn cynnig ardaloedd prin eu poblogaeth, traethau, mynyddoedd a chysylltiadau cludiant gwych â dinasoedd cyfagos, sy’n golygu y bydd digonedd o gyfleoedd i grwydro bob amser. Mae gan Ogledd Cymru lawer i’w gynnig i breswylwyr newydd, a cheir bwytai rhagorol sy’n gweini bwyd wedi’i gyrchu’n lleol. Hefyd, ceir cyfleoedd a ariennir i ddysgu’r Gymraeg os byddwch yn dymuno gwneud hynny. Ceir yma bentrefi hardd a thai o ansawdd uchel am brisiau eithriadol o fforddiadwy, ac amgylcheddau naturiol heb eu difetha gerllaw. Mae’n ddigyffelyb!
Rydym yn cynnig treuliau adleoli yn achos rhai swyddi penodol – holwch ni!
Please provide us with a few details and we’ll get back to you.


